P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Bethan Sayed, ar ôl casglu cyfanswm o 299 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Rydym yn galw ar y Senedd i gynnal ymchwiliad i’r sgandal mesuryddion rhagdalu.

Dros y ddau fis diwethaf, mae tystiolaeth wedi dod i’r amlwg bod miloedd o bobl sydd wedi’u symud i fesuryddion rhagdalu heb y gwiriadau gofynnol o ran a ydynt yn agored i niwed.

Rydym ni yn Climate Cymru ac ymgyrchwyr eraill wedi bod yn datgelu’r sgandal hwn.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Gweler lincs i straeon gan newyddiadurwyr ymgyrchu fel Dean Kirby yn y papur newydd o’r enw i.

- Forced installations of prepayment meters to stop as courts ordered to end issuing warrants (inews.co.uk)

- Prepayment meters must be removed for vulnerable families as compensation is not enough, Grant Schapps told (msn.com)

- i morning briefing: How the prepayment meter scandal was uncovered, and forced change (msn.com)

- Prepayment meters: Grant Schapps gives energy firms until Tuesday to consider compensation (inews.co.uk)

- Prepayment meter investigation - inews.co.uk

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Canol Caerdydd

·         Canol De Cymru